P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mencap Cymru, ar ôl casglu 1,926 lofnodion ar-lein ac 578 o lofnodion ar bapur, sef cyfanswm o 2,504 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae Mencap Cymru yn pryderu y gall y newid tuag at gymdeithas heb arian parod wneud cam â phobl anabl na allant gael mynediad at ddulliau electronig ar gyfer talu.

 

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae pobl ag anableddau dysgu wedi methu talu am nwyddau a gwasanaethau ac wedi gorfod gadael busnesau’n waglaw. Ni chaniateir i weithwyr cymorth ddefnyddio’u cardiau eu hunain, ac ni ddylid disgwyl iddynt wneud hynny.

 

Mae’n mynd yn anoddach iddynt brynu nwyddau a gwasanaethau wrth i nifer o fusnesau a sefydliadau droi at systemau electronig o dalu.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Cwm Cynon

·         Canol De Cymru